Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (157) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 9 eu grwpio. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad o'r Cwricwlwm ac Asesu
Dechreuodd yr eitem am 14.45
4 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.24
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: System Drafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.52
6 Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5336 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
10 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na fu’r bil drwy broses pwyllgor Cyfnod 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5339 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2012-2013
Dechreuodd yr eitem am 17.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5337 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi, sy’n amlygu’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi cyhoeddi safonau iaith Gymraeg yn dilyn gwaith y Comisiynydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gyrff sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn gweithredu polisi iaith Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori’n eang ar ddatblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a bod targedau cadarn yn cael eu sefydlu ar gyfer eu gweithredu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5337 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi, sy’n amlygu’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.22
Daeth y cyfarfod i ben am 18:26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 23 Hydref 2013